Lleoliad:
Ystafelloedd Bwyllgora 1 a 2
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Mawrth 2023
Amser:
09.15 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13439
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS |
Tystion: |
Robert Nicholls, Welsh Cladiators Geoff Spight, Welsh Cladiators Mark Thomas, Welsh Cladiators Georgie Hulme, CLADDAG: Leaseholders Disability Action Group Sarah Rennie, CLADDAG: Leaseholders Disability Action Group Megan Thomas, Swyddog Polisi, Anabledd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS.
2 Diogelwch adeiladau – sesiwn dystiolaeth 1
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Mark Thomas, Celestia, Caerdydd ac aelod o'r Welsh Cladiators
Robert Nicholls, Altamar, Abertawe - Sylfaenydd grŵp y Cladiators yn Abertawe ac aelod o'r Welsh Cladiators
Geoff Spight, Altamar, Abertawe ac aelod o'r Welsh Cladiators
Gareth Wilson, Lesddeiliad, Celestia
2.2. Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Mark Thomas, ac mae’r cyflwyniad i’w weld ar Senedd.tv.
3 Diogelwch adeiladau – sesiwn dystiolaeth 2
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Sarah Rennie, Cyd-sylfaenydd, CLADDAG: Leaseholders Disability Action Group
Georgie Hulme, Cyd-sylfaenydd, CLADDAG: Leaseholders Disability Action Group
Megan Thomas, Anabledd Cymru
3.2. Darparodd Georgie Hulme glip fideo yn nodi ei phrofiadau, ac mae hwn ar gael i’w weld ar Senedd.tv.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar oblygiadau ariannol Biliau
4.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar oblygiadau ariannol Biliau
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin
7.1. Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.